“Mae’r Ganolfan Ryngwladol Plismona a Diogelwch (ICPS) yn un o’r prif ganolfannau rhagoriaeth ar gyfer astudio’r problemau ymfudo-diogelwch ac mae wedi’i staffio ag ysgolheigion o fri rhyngwladol, gan gynnwys fy ngoruchwyliwr, yr Athro Christian Kaunert, sydd hefyd yn ddeiliad Cadair fawreddog Jean Monnet mewn Plismona a Gwrthderfysgaeth yn Ewrop Mae'r cyfle i fanteisio ar arbenigedd a gwybodaeth helaeth yr ysgolheigion hyn yn golygu mai ICPS-PDC yw’r ganolfan wybodaeth berffaith.
“Mae’r ICPS yn cynnig y fantais unigryw o gyfuno mewnwelediadau academaidd a pholisi/ymarferwyr i ddeinameg plismona a diogelwch, mudo, ffiniau, a chyfiawnder yn benodol yn y cyd-destun Ewropeaidd, ond hefyd y cyd-destun rhyngwladol. Mae hwn yn ffit perffaith ar gyfer fy ngwaith sy’n croesi ffiniau disgyblaethol, gan ganolbwyntio ar ymfudo yn ôl i Affrica a'i gysylltiad â pholisi ffiniau allanol yr UE sydd â'r nod o ffrwyno mudo afreolaidd, a'r argyfyngau cymhleth a wynebir gan ymfudwyr sy'n teithio trwy Libya i Ewrop.
“Mae’n helpu i ddyfnhau fy nealltwriaeth fy hun o fudo dychwelol, ond hefyd i ledaenu’r wybodaeth hon y mae mawr ei hangen i’r gymuned ymchwil a pholisi, yn enwedig yn Affrica.”
Mae Dr Eyene Okpanachi yn rhan o faes Ymchwil Terfysgaeth a Diogelwch, dan arweiniad yr Athro Christian Kaunert. Mae'n un o dri Chymrawd Marie Curie yn y Ganolfan Ryngwladol Plismona a Diogelwch.
Maes ymchwil eang a diddordebau academaidd Eyene yw gwleidyddiaeth gymharol a chysylltiadau rhyngwladol, ond mae ganddo ddiddordeb penodol mewn mudo / symudedd, diogelwch (gan gynnwys terfysgaeth a gwrthderfysgaeth), prosesau gwrthdaro a heddwch, ffederaliaeth a llywodraethu aml-lefel, gwleidyddiaeth adnoddau naturiol, sefydliadau a diwygiadau sefydliadol, polisi cyhoeddus, a gwleidyddiaeth gwneud penderfyniadau'r llywodraeth.