Mae Ymchwil Terfysgaeth a Diogelwch yn cael ei arwain gan yr Athro Dr Christian Kaunert sef deiliad presennol Cadeirydd Jean Monnet mewn Plismona a Gwrthderfysgaeth yn Ewrop. Yn y gorffennol, bu'r Athro Kaunert yn Gyfarwyddwr Academaidd ac yn Athro yn y Sefydliad Astudiaethau Ewropeaidd, Vrije Universiteit Brussel, Athro Gwleidyddiaeth Ryngwladol, Pennaeth Disgyblaeth mewn Gwleidyddiaeth, a Chyfarwyddwr y Sefydliad Ewropeaidd dros Ddiogelwch a Chyfiawnder, Canolfan Ragoriaeth Jean Monnet ym Mhrifysgol Dundee.