Policing website Banner Security Abstract GettyImages-1210303565.jpg

Ynglŷn â'r Ganolfan Efelychu Hydra

Mae'r Ganolfan Efelychu Hydra yn darparu amgylchedd dysgu ac addysgu unigryw ac fe'i defnyddir i gynnal senarios trochi, efelychiadol ar gyfer amrywiaeth o fyfyrwyr o'n cyrsiau Gwyddorau'r Heddlu, Nyrsio, Llywodraethu Byd-eang a Gwaith Cymdeithasol i Iechyd y Cyhoedd, Busnes a Marchnata.

Wedi'i ddatblygu gan yr Athro Jonathan Crego, mae Hydra yn offeryn hyfforddi sy'n galluogi monitro dynameg grŵp, arweinyddiaeth amser real a gwneud penderfyniadau naturiolaidd mewn digwyddiadau tyngedfennol.

Mae Hydra wedi helpu i hyfforddi a gwneud penderfyniadau swyddogion yr heddlu, personél brys, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a'r sectorau milwrol a phreifat yn y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol.

Ymarfer Hydra nodweddiadol 


Ar ddechrau ymarfer Hydra, byddai ein myfyrwyr fel arfer yn ymgynnull yn y brif ystafell ar gyfer sesiwn friffio gychwynnol. Yma, mae'r myfyrwyr yn derbyn gwybodaeth am yr ymarfer a'u rolau am y diwrnod. 

Yn dilyn y sesiwn friffio hon, mae myfyrwyr yn mynd i mewn i'r ystafelloedd syndicet lle maent yn ymgysylltu â senario ffug. 

Defnyddir gwybodaeth ar ffurf clipiau sain, clipiau fideo, dogfennau electronig a/neu brintiedig i ddatblygu'r senario, ac mae myfyrwyr yn defnyddio meddalwedd Hydra i gofnodi eu penderfyniadau. 

Yn ystod y cyfnod hwn, mae arbenigwyr pwnc yn monitro rhyngweithio a chynnydd myfyrwyr o'r ystafell reoli. Hefyd, mae staff a myfyrwyr yn dychwelyd o bryd i'w gilydd i'r brif ystafell i drafod y penderfyniadau a wnaed gan ein myfyrwyr a'r effaith a gafodd y penderfyniadau hyn ar ddilyniant yr ymarfer.

Mae mwyafrif y senarios yn rhedeg am dair i chwe awr ond mae rhai wedi'u cynllunio i redeg am dri diwrnod yn olynol.

Cysylltwch â ni

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwybod mwy am ein Hystafell Efelychu Hydra a’i llogi ar gyfer eich sefydliad, cysylltwch â Dr Dean Whitcombe, Gweithredwr Ystafell Efelychu/Hydra [email protected]


Manteision defnyddio Hydra

  • Mae senarios yn trochi ac yn aml yn atgynhyrchu amodau bywyd go iawn, gan ganiatáu i fyfyrwyr ddelio â sefyllfaoedd bywyd go iawn mewn amgylchedd dysgu diogel.
  • Helpu myfyrwyr i gael profiad o weithio fel tîm mewn amgylchedd pwysau uchel.
  • Mae'n cynnig gweithgaredd myfyriwr-ganolog sy'n hwyl ac yn ddeniadol o'i gymharu â dulliau dysgu traddodiadol.
  • Mae’n galluogi staff i gynnal asesiad ffurfiannol o wybodaeth a sgiliau gwneud penderfyniadau eu myfyrwyr mewn amgylchedd efelychiadol.
  • Mae'n galluogi staff i ymgorffori technolegau a rhaglenni newydd yn eu haddysgu, gan ddarparu profiad dysgu cyfoethocach i'n myfyrwyr.
  • Mae clustffonau rhith-realiti manylder uwch yn gwella trochi, gan alluogi ein myfyrwyr i gael profiad ar sut beth yw bod yng nghanol senario bywyd go iawn.
  • Mae meddalwedd Hydra in the Cloud yn caniatáu cynnal efelychiadau ar draws gwahanol ystafelloedd ar yr un pryd, gan ddarparu cydweithrediad tîm amser real a gwneud penderfyniadau ymhlith sefydliadau allweddol megis yr Heddlu, y Gwasanaeth Tân, y Swyddfa Gartref, Rheoli Ffiniau a Sefydliadau Addysg Uwch.