19-04-2021
Er ei fod o gwmpas am flynyddoedd lawer ar ei ffurf bresennol, mae ymchwil a llenyddiaeth academaidd ar Wirfoddolwyr yr Heddlu a elwir yn Gwnstabliaid Arbennig yn brin. Mae'r prosiect hwn yn ceisio darparu archwiliad beirniadol o'r defnydd o gwnstabliaid arbennig mewn heddluoedd yng Nghymru a Lloegr. Bydd yn sefydlu a gafodd eu rôl ei hehangu a'i defnyddio uwchlaw'r disgwyliad arferol yn ystod pandemig Covid-19.
Bydd y prosiect yn ystyried sut yr oedd Cwnstabliaid Arbennig yn cael eu hystyried a'u defnyddio o'u cymharu â'u cydweithwyr rheolaidd. Bydd yn darparu argymhellion ar gyfer defnyddio Cwnstabliaid Gwirfoddol a mathau eraill o wirfoddolwyr yn y dyfodol. Bydd yn cael effaith fawr nid yn unig ar y diwydiant, ond i academyddion sy'n astudio ym maes plismona.
Rhaid i ymgeiswyr fod â phrofiad o brosiectau ymchwil ac mae gwybodaeth am strwythur sefydliadol asiantaethau'r heddlu yn ddymunol. Mae angen gradd anrhydedd ail ddosbarth uchaf, gradd Meistr, neu brofiad diwydiannol cyfatebol perthnasol. Bydd mynediad i Heddluoedd sy'n rhan o'r prosiect drwy gysylltiadau sydd eisoes yn bodoli yn y Ganolfan Ryngwladol ar gyfer Plismona a Diogelwch.
Mae'r ysgoloriaeth i gefnogi astudio llawn amser am dair blynedd. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn derbyn bwrsariaeth ddi-dreth flynyddol o £15,285 a bydd ffioedd dysgu (ar gyfradd myfyrwyr cartref) yn cael eu hepgor.
17-02-2022
01-11-2021
10-09-2021
17-08-2021
22-07-2021
06-07-2021
23-06-2021
22-06-2021
19-04-2021