Mae Cressida Dick wedi ymddiswyddo ond mae problemau heddlu'r Met yn fwy nag un person

Met Police Officer

Gan yr Athro Colin Rogers



Mae comisiynydd yr Heddlu Metropolitan, Cressida Dick, wedi ymddiswyddo ar ôl pum mlynedd yn y swydd. Er gwaethaf llwyddiannau fel gostyngiad yn nifer gyffredinol yr anafiadau difrifol i bobl ifanc, a nifer fawr o arfau peryglus yn cael eu hatafaelu, mae llawer o achosion proffil uchel o gamymddwyn a throseddu gan swyddogion gweithredol wedi digwydd yn ystod ei chyfnod wrth y llyw. Mae'r rhain i gyd wedi cyfrannu at anniddigrwydd gyda heddlu Llundain ac, yn wir, wedi codi cwestiynau am alluoedd arweinyddiaeth Dick.

Dywedodd Dick, y fenyw gyntaf i arwain y Met, ei bod yn amlwg nad oedd gan faer Llundain Sadiq Khan hyder yn ei harweinyddiaeth. Roedd Khan eisoes wedi gofyn i Dick am gynllun i "ailennill ymddiriedaeth a hyder" y cyhoedd yn dilyn nifer o sgandalau.

Y mwyaf nodedig oedd llofruddiaeth erchyll Sarah Everard gan y Cwnstabl Wayne Couzens a'r ffordd yr ymdriniodd yr heddlu â gwylnosau a gynhaliwyd wedi hynny i gofio Sarah. Cafodd dau swyddog Met arall eu carcharu am dynnu lluniau safle troseddu o'r chwiorydd Bibaa Henry a Nicole Smallman oedd wedi cael eu llofruddio, a rhannu’r lluniau hynny.

Nid yw honiadau cyson ynghylch llygredd sefydliadol ac ymdrechion i gelu’r gwir, gan gynnwys rhai'n ymwneud â llofruddiaeth Daniel Morgan yn 1987, wedi helpu ei sefyllfa. Honnir bod Dick wedi gwrthod rhoi mynediad i gychwyn i banel ymchwilio i systemau data'r heddlu yn achos Morgan pan oedd yn Gomisiynydd Cynorthwyol y Met.

Yn fwy diweddar, mae'n bosibl bod amharodrwydd cychwynnol y Met i ymchwilio i bartïon honedig yn Downing Street yn groes i reoliadau COVID wedi cael rhywfaint o ddylanwad gwleidyddol, ac mae adroddiad niweidiol i'r diwylliant ymhlith swyddogion heddlu, yng ngorsaf heddlu Charing Cross yn bennaf, hefyd wedi ennyn mwy o feirniadaeth.

Bob dydd, mae miloedd o swyddogion yr heddlu’n cyflawni eu gwaith yn gwbl foesol a phroffesiynol. Er hynny, mae gan y rhan fwyaf o heddluoedd rai unigolion sy'n camymddwyn mewn rhyw ffordd. Er bod angen ymchwilio i'r honiadau a'r digwyddiadau hyn, ac atebolrwydd drostyn nhw, rhaid i'r person sy'n gyfrifol am sefydliad ysgwyddo o leiaf beth o’r cyfrifoldeb dros weithredoedd ei aelodau yn y pen draw.

Dylai astudio hanes ein galluogi i ddysgu o gamgymeriadau’r gorffennol. Yn anffodus, mae gan heddlu'r Met hanes o lygredigaeth fawr a sgandalau proffil uchel. Cafwyd llu o honiadau o lygredigaeth yn y 1960au ac yn y 1980au. Tynnodd adroddiad Scarman sylw at broblemau rhwng yr heddlu a chymunedau lleiafrifoedd ethnig. Yn fwyaf enwog, datgelodd adroddiad MacPherson ym 1999 hiliaeth sefydliadol yn yr heddlu yn dilyn llofruddiaeth y dyn ifanc  Stephen Lawrence yn Llundain.


Diwylliant sefydliadol

Efallai fod cwestiwn mwy yma – un am strwythur y Met ei hun. Mae'n wybyddus y gall diwylliant sefydliad gael ei yrru a'i newid gan arweinyddiaeth gref. Roedd Dick yn aml yn ymddangos fel petai’n ymddiheuro wrth ddioddefwyr, ond heb gydnabod mewn gwirionedd fod rhywbeth o'i le wrth wraidd ei sefydliad. Roedd hyn, o bosibl, yn awgrymu i'r rhai y tu mewn i ddiwylliant yr heddlu nad oedd angen newid.

Nid yw'r broblem o sicrhau bod yr heddlu'n atebol am eu gweithredoedd yn un newydd i unrhyw uwch arweinwyr yn sefydliadau’r heddlu. Fodd bynnag, o'i gymharu â'r rhan fwyaf o heddluoedd eraill yng Nghymru a Lloegr, mae'r Met yn eithriadol o fawr. Mae ganddo sawl haen reoli a gwahanol rolau arwain.

Fel yr oedd pethau ym mis Ionawr 2021, roedd y Met yn cyflogi bron 50,000 o bobl, gan gynnwys dros 33,000 o swyddogion heddlu. Mae hwn yn nifer enfawr o bobl i un comisiynydd eu goruchwylio. Roedd yn golygu, er mwyn bwrw ymlaen â'i gweledigaeth ar gyfer newid, a mynd i'r afael â hiliaeth a materion eraill, fod yn rhaid i Dick ddibynnu ar fwy o swyddogion iau i rannu ei gweledigaeth a mynd i'r afael ag ymddygiad amhriodol. Mae hynny bron yn amhosibl mewn sefydliad mor fawr.

Un o nodweddion mwyaf anghyffredin plismona fel galwedigaeth yw bod llawer ohono, yn enwedig gwaith rheng flaen, yn cael ei wneud heb oruchwyliaeth ac yn dibynnu ar benderfyniadau moesegol swyddogion unigol. Mae'r cyfle, o fewn sefydliad mor fawr, am gamymddwyn yn enfawr ac, mewn llawer o achosion, does dim modd ei weld.

Yn ogystal, mae isddiwylliant yr heddlu yn un cryf a gwydn iawn. Mae'n dibynnu ar gydweithredu rhwng swyddogion o wahanol lefelau cyfrifoldeb ac yn bwydo ymdeimlad o "ni yn erbyn y byd" – y cyfeirir ato'n aml fel y "llinell las denau" sy'n amddiffyn cymdeithas sifil rhag anarchiaeth.

Mae strwythur plismona ar hyn o bryd yn golygu bod arweinwyr iau ac uwch arweinwyr yn cael eu dyrchafu drwy'r rhengoedd mewnol, ac felly'n agored i'r diwylliant hwn drwy gydol eu gyrfa. Dyw hi ddim yn syndod felly bod y diwylliant hwn yn gallu dylanwadu ar benderfyniadau.

Yn amlwg, mae'n rhaid i Brif Swyddog Gweithredol sefydliad (a dyna, mewn gwirionedd, yw comisiynydd yr Heddlu Metropolitan) ateb dros y ffordd y mae'r sefydliad hwnnw'n cyflawni ei swyddogaethau. Yn gyffredinol, dylai'r Prif Swyddog Gweithredol hefyd fod yn allweddol wrth ffurfio a newid diwylliant ac agweddau sefydliadau.

Mae Dick wedi cydnabod hynny ac, yn hyn o beth, mae ymhlith comisiynwyr eraill fel David McNee (1977-1982), Robert Mark (1972-1977) ac Ian Blair (2005-2008), y gwnaeth pob un ohonynt geisio mynd i'r afael â llygredd a throseddu yn Heddlu’r Met. Mae'n ymddangos bod y strwythur sefydliadol, ynghyd ag amharodrwydd sefydliadol i newid, wedi'u rhwystro bob tro.

Roedd camymddwyn yn y Met cyn dyddiau Cressida Dick. Mae’n bosibl bod rôl y comisiynydd o ran rheoli diwylliant yr heddlu a delio â honiadau parhaus o gamymddwyn yn fandad amhosibl. Efallai fod Dick wedi colli ei swydd mewn ffordd gyhoeddus iawn oherwydd hyn, ond i bwy bynnag a ddaw nesaf, yr un fydd yr her.



Mae'r erthygl hon wedi'i hailgyhoeddi o ‘The Conversation’ o dan drwydded Comin Creu. Darllenwchyr erthygl wreiddiol.