03-12-2020
Athro Christian Kaunert
Mae’r Ganolfan Ryngwladol Plismona a Diogelwch (ICPS), sydd wedi’i lleoli ym Mhrifysgol De Cymru (PDC) wedi derbyn tri grant Jean Monnet (Erasmus Plus) gan y Comisiwn Ewropeaidd i roi hwb i ymchwil i wrthderfysgaeth a diogelwch hybrid.
Maent yn derbyn €300,000 i sefydlu rhwydwaith gwrthderfysgaeth yr UE, EUCTER, sy’n golygu cydweithredu academaidd rhyngwladol i hybu fformatau dysgu cyfunol gyda pherthnasedd polisi cadarn ym maes gwrthderfysgaeth yr UE. Mae €100,000 ychwanegol ar gyfer partneriaeth gyda Phrifysgol Gorllewin Lloegr (UWE) Bryste i symud ymlaen gydag ymchwil i gydweithredu Ewropeaidd ym meysydd diogelwch, troseddu a gwrthderfysgaeth o dan y pennawd ‘Rhithiol Wych: Agor Prydain i Ewrop a’r Byd drwy Addysg Arloesol am Ddiogelwch Ewropeaidd (VIRTUE)’. Mae €30,000 arall ar gyfer arwain modiwl ‘Cadernid yr UE yn erbyn Rhyfela Hybrid - HYBRID’ er mwyn helpu myfyrwyr i adnabod a dadansoddi tactegau hybrid, yn arbennig ym maes seiberddiogelwch.
ICPS yw un o’r ychydig ymgeiswyr a lwyddodd gyda’r tri chais, gan osod PDC ar flaen y gad o ran rhagoriaeth ymchwil i wrthderfysgaeth a diogelwch rhyngwladol.
Dywedodd yr Athro Christian Kaunert, Cyfarwyddwr Canolfan Ragoriaeth Jean Monnet, a’r Ganolfan Ryngwladol Plismona a Diogelwch (ICPS) yn PDC: “Bydd hyn yn newid dull ymchwilio i wrthderfysgaeth yn yr UE, ac i Gymru yn arbennig. Rydym yn byw mewn byd sy’n newid ac mae’r syniad am ddiogelwch yn newid drwy’r amser. Ar hyn o bryd, rydym yn gweld problemau diogelwch iechyd yn sgil pandemig Covid-19, diogelwch hybrid yn Ewrop oherwydd tensiynau gyda Rwsia, ac wrth gwrs yn sefyllfa barhaus ledled y Dwyrain Canol gyda gwrthdaro arfog a bygythiadau o derfysgaeth. Byddwn hefyd yn gweld beth fydd effaith Darpar-Arlywydd newydd UDA, Joe Biden, ar y materion hyn yn y dyfodol agos.
“Mae’n hwb aruthrol i gael y gefnogaeth hon gan y Comisiwn Ewropeaidd ac mae’n amlygu cryfder arbenigedd y Brifysgol ym maes diogelwch Ewropeaidd. Bydd y cyllid yn caniatáu i ni ddatblygu ymhellach ein haddysgu rhyngddisgyblaethol a’n gweithgareddau ymchwil a’n partneriaethau rhyngwladol ym meysydd diogelwch a phlismona. Rydym hefyd yn cynllunio cyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu â’r cyhoedd, er mwyn i ni ledaenu’r wybodaeth rydym yn ei gynhyrchu mor eang ag sydd bosib.”
Dywedodd yr Athro Sarah Leonard, Cyd-Gyfarwyddwr Canolfan Ragoriaeth Jean Monnet ac Athro Diogelwch Rhyngwladol yn UWE Bryste: “Os ydym am edrych ar faterion diogelwch, mae’n rhaid i ni ystyried y darlun ehangach a’r modd y mae’n ffurfio penderfyniadau llunwyr polisi a sefydliadau ledled y byd. Dyma’r unig ganolfan yn Ewrop fydd yn dilyn y trywydd eang hwn ac mae’n addas ei bod wedi’i lleoli yma yn ne Cymru, ble mae gennym y gymysgedd angenrheidiol o brofiad mewn amrywiaeth eang o ddisgyblaethau a rhagoriaeth ymchwil ac addysgu a fydd yn rhoi’r sylfaen i ni ymgymryd â’r gwaith hwn.”
Mae Rhwydwaith Ymchwil Jean Monnet ar Wrthderfysgaeth yr UE (EUCTER) yn rhwydwaith ragoriaeth ar sail ymchwil, gydag un deg pedwar partner, gyda’r nod o hyrwyddo fformatiau dysgu cyfunol arloesol gyda pherthnasedd polisi cadarn ym maes gwrthderfysgaeth yr UE. Mae’r prosiect yn dod â thri maes addysgu ac ymchwil cydberthnasol at ei gilydd: cyfiawnder a materion cartref yr UE, gwrthderfysgaeth yr UE a chysylltiadau allanol yr UE. Ymhlith amcanion EUCTER mae archwilio a dadansoddi datblygiad ac arferion cydweithredu gwrthderfysgol a diplomyddiaeth yng ngweithredoedd mewnol ac allanol yr UE a’i fwriad yw cyfrannu i ddealltwriaeth newydd o swyddogaeth sefydliadau Ewropeaidd.
Mae’r Rhwydwaith, o dan arweiniad PDC, hefyd yn cynnwys Prifysgol Gorllewin Lloegr Bryste a Phrifysgol Caerdydd yn y DU, Prifysgol Dinas Dulyn yn Iwerddon, Prifysgol Augsburg yn Yr Almaen, Sefydliad Egmont yng Ngwlad Belg, Prifysgol Maastricht yn Yr Iseldiroedd, Prifysgol Pisa yn Yr Eidal, CIDOB Barcelona a Phrifysgol Deusto Bilbao yn Sbaen, Prifysgol Iasi yn Romania, Prifysgol Metropolitan Prague yn Y Weriniaeth Tsiec, yr IDC Herzliya yn Israel a Phrifysgol Jendouba yn Nhiwnisia.
Gan fod rhyfela Hybrid yn cael effaith bendant ledled Ewrop ac yn effeithio ar ddiogelwch Ewropeaidd, bwriad y modiwl Cadernid yr UE yn erbyn Rhyfela Hybrid – HYBRID yw ymgysylltu myfyrwyr, academyddion, llunwyr polisi, ymarferwyr a phenderfynwyr mewn trafodaeth am ran o ddiogelwch yr UE sy’n cael effaith ar gymdeithasau rhydd ac agored. Wedi’i gynllunio i gynyddu’r ddealltwriaeth o’r hyn yw bygythiadau hybrid, ei nod yw dysgu myfyrwyr i adnabod a dadansoddi bygythiadau hybrid ac i feithrin trafodaeth ynglŷn â’r esblygiad a’r athrawiaethau sydd wrth wraidd tactegau rhyfela hybrid, maes y mae gan seiberddiogelwch swyddogaeth hanfodol ynddo.
Gan elwa ar arbenigedd a phrofiad canolfannau ymchwil sydd eisoes yn bod yn PDC, yn arbennig Y Ganolfan Ryngwladol Plismona a Diogelwch (ICPS) a’r Ganolfan Droseddeg, bydd Rhithiol Wych: Agor Prydain i Ewrop a’r Byd drwy Addysg Arloesol am Ddiogelwch Ewropeaidd (VIRTUE) yn canolbwyntio ar gydweithredu Ewropeaidd ym meysydd diogelwch, troseddu a gwrthderfysgaeth, yn cynnwys partneriaethau gyda gwledydd o’r trydydd byd. Mae’n anelu at archwilio swyddogaeth yr UE mewn materion diogelwch rhyngwladol, gan ganolbwyntio’n benodol ar gydweithredu Ewropeaidd i atal troseddu a therfysgaeth, a hynny o safbwyntiau disgyblu niferus.
Bydd y grantiau a roddwyd gan y Comisiwn Ewropeaidd yn cryfhau safle PDC fel canolfan ymchwil allweddol ar ymchwil i ddiogelwch a gwrthderfysgaeth yn y DU dros y pedair blynedd nesaf. Mae mwy o wybodaeth a manylion ar gael yma https://eucter.net/.
17-02-2022
01-11-2021
10-09-2021
17-08-2021
22-07-2021
06-07-2021
23-06-2021
22-06-2021
19-04-2021