Athro PDC yn cael cais i ymuno â grŵp ymgynghorol ar ddiogelwch ffiniau’r DU

Christian Kaunert (BVAG) (17.01.2021).jpg

Athro Christian Kaunert


Mae arbenigwr Plismona a Diogelwch Prifysgol De Cymru (PDC) yr Athro Christian Kaunert wedi cael cais i gyd-gadeirio Grŵp Ymgynghorol Gweledigaeth Ffiniau'r DU (BVAG), sy’n rhan o’r Swyddfa Gartref.


Sefydlwyd BVAG gan Lu'r Ffiniau, un o ganghennau gweithredol y Swyddfa Gartref, sy'n gyfrifol am sicrhau ffiniau’r DU a rheoli mudo mewn porthladdoedd a meysydd awyr ledled y DU a thramor. 


Bydd y Grŵp yn rhoi cyfle i arbenigwyr o sawl maes arbenigol weithio ochr yn ochr â Llu'r Ffiniau i yrru ymchwil academaidd a sganio'r gorwel o ran datrysiadau arloesol i seilwaith ffiniau a phorthladdoedd, a gweithredu’r syniadau hynny.  Bydd yn cynghori ac yn helpu i ddatblygu argymhellion ynghylch gwella diogelwch y ffiniau, teithio digyffwrdd a llif traffig wrth y gororau, meysydd blaenoriaeth, a nodi a chefnogi gweithgarwch ymchwil a datblygu.


Dewiswyd yr Athro Kaunert ar gyfer y rôl oherwydd ei arbenigedd mewn gwrthderfysgaeth, radicaleiddio, ymarfer polisi, gweinyddiaeth gyhoeddus a chymorth academaidd.


"Bydd myfyrwyr yn gallu elwa ar brofiad ymarferol bywyd go iawn o ymchwil ddamcaniaethol a gwreiddiol i ystyriaethau ynghylch sicrhau ffiniau’r DU a rheoli mudo mewn porthladdoedd a meysydd awyr ledled y DU a thramor," dywedodd yr Athro Kaunert.


"Byddan nhw’n elwa o brofiad sylweddol a ddaw o gyfnewid canlyniadau ymchwil i wella diogelwch y ffiniau, cynyddu'r defnydd o dechnoleg arloesol a datblygu ffyrdd newydd o weithio gyda diwydiant fydd yn helpu i lywio ffiniau’r dyfodol, ac arwain at  brofiad gwell i deithwyr a llif nwyddau.


"Bydd hyn yn eu gwneud yn fwy parod ar gyfer y farchnad lafur a bydd yn creu mwy o gyfleoedd i fyfyrwyr gael swyddi pwysig yn y diwydiant diogelwch, y gwasanaeth sifil (fel y Swyddfa Gartref neu'r Llu Ffiniau) a sgiliau ymchwil academaidd o'r radd flaenaf fydd yn werthfawr ledled y byd."

#police-cy