Mae recriwtio myfyrwyr ôl-raddedig eithriadol o'r DU a ledled y byd yn ganolog i'n hathroniaeth ymchwil. Mae myfyrwyr yn weithgar ar draws ystod o feysydd ymchwil ac yn cael eu hariannu o ystod o ffynonellau (er enghraifft: hunan-ariannu, diwydiant, elusen, llywodraeth y DU a'r UE). Mae gan ein myfyrwyr ymchwil fynediad i gyfleusterau o'r radd flaenaf; mae ganddynt ofod swyddfa pwrpasol ac fe'u hanogir i gyflwyno eu gwaith mewn cynadleddau cenedlaethol a rhyngwladol.
Rydym yn croesawu ceisiadau am PhD neu astudiaeth Meistr trwy Ymchwil yn un o’n meysydd arbenigedd. Gallwch astudio ar sail amser llawn neu ran-amser, ar y campws neu o bell. Os ydych chi'n weithiwr proffesiynol gyda chorff ymchwil yn barod, efallai mai PhD fesul Portffolio yw'r llwybr i chi.
Mae ymchwilwyr ôl-raddedig yn cael tîm goruchwylio sydd â'r arbenigedd a'r profiad i'w cefnogi yn eu hastudiaethau. Bydd goruchwylwyr yn eich helpu i lunio eich prosiect ymchwil doethurol, yn eich cynghori ar greu rhwydweithiau a sefydlu eich gyrfa.
Gallwch ddod o hyd i'n ffioedd dysgu ar gyfer ymchwil ôl-raddedig yma a mwy o wybodaeth ar ein gwefan Ysgol Graddedigion. Pan fyddwch yn barod i gyflwyno cais, dyma sut yr ydych yn ei wneud a sut y caiff ei ystyried.
Rydym hefyd yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau israddedig ac ôl-raddedig.
Mae aelodau o'r Ganolfan Ryngwladol ar gyfer Plismona a Diogelwch hefyd yn rhan o'r gwaith o ddarparu ein cyrsiau plismona a diogelwch israddedig ac ôl-raddedig.