Yr Athro Christian Kaunert, Cyfarwyddwr y Ganolfan Rngwladol Plismona a Diogelwch a Chadeirydd presennol Jean Monnet mewn Plismona a Gwrthderfysgaeth yn Ewrop, sy’n arwain yr Ymchwil i Derfysgaeth a Diogelwch yn y Ganolfan. Mae'r Athro Kaunert yn arbenigwr ar wrthderfysgaeth ar ôl ymchwilio a chyhoeddi'n eang.
Yr Athro Colin Rogers sy'n arwain y llinyn Ymchwil Plismona. Yn gyn-arolygydd heddlu gyda Heddlu De Cymru gyda 30 mlynedd o wasanaeth, mae meysydd arbenigedd yr Athro Rogers yn cynnwys partneriaethau diogelwch cymunedol, atal troseddau sefyllfaol, dyfodol plismona, addysg yr heddlu a hefyd llywodraethu ac atebolrwydd yr heddlu
Dr James Gravelle. Diddordeb ymchwil: Tasgio Unedau Rheoli Galw , gwybodaeth gymunedol a defnyddio gwirfoddolwyr.
Yr Athro Peter Vaughan, QPM, Cyfarwyddwr Prosiectau Strategol ar gyfer Plismona a Diogelwch. Mae Peter yn gyn Brif Gwnstabl Heddlu De Cymru. Mae’n goruchwylio grŵp profiadol o ymchwilwyr heddlu, academyddion ac ymarferwyr yn y Ganolfan yn ogystal ag arwain datblygiad partneriaeth y Brifysgol gyda heddluoedd ledled Cymru a’r DU.
Dr Ethem Ilbiz, Cymrawd Marie Curie
Diddordebau ymchwil: brwydr Europol yn erbyn seiberdroseddu yng nghyd-destun Uberization. Dr Ilbiz yw prif swyddog prosiect TUECS.
Dr Joana de Deus Pereira, Cymrawd Marie Curie
Diddordebau ymchwil: sut ac i ba raddau y mae'r diwydiant diogelwch yn siapio'r polisi mudo Ewropeaidd.
Dr Eyene Okpanachi, Cymrawd Marie Curie
Diddordebau ymchwil: heriau mudo dychwelyd yn Affrica yn oes argyfyngau cymhleth a systemau llywodraethu aml-lefel yn Ethiopia a Nigeria.
Mae Dr Ori Wertman yn gynorthwyydd ymchwil ac yn ymchwilydd atodol yn y Ganolfan Astudiaethau Diogelwch Cenedlaethol ym Mhrifysgol Haifa, Israel.
Mae ei ddiddordebau ymchwil yn cynnwys gwrthdaro Arabaidd Israel; Cysylltiadau rhyngwladol; gwrthderfysgaeth; damcaniaeth gwarantiad; gwleidyddiaeth Israel. Mae Ori yn ysgrifennu blog rheolaidd ar gyfer The Times of Israel. Gweler proffil Google Scholar Ori.
Yr Athro Ian Pepper, Athro mewn Plismona
Mae Ian yn gyn brif ddarlithydd, uwch ddarlithydd, hyfforddwr heddlu, Ymchwilydd Lleoliad Trosedd (CSI) a swyddog olion bysedd. Mae wedi bod yn arweinydd tîm yn y Ganolfan Hyfforddi Genedlaethol ar gyfer Cymorth Gwyddonol i Ymchwilio i Droseddau ac mae wedi cynllunio a darparu addysg a hyfforddiant i ymchwilwyr lleoliadau troseddau a swyddogion heddlu ledled y byd. Gyda diddordebau ymchwil rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol yn canolbwyntio ar addysg uwch yr heddlu, gwirfoddolwyr o fewn plismona, cyflogadwyedd ac ymchwilio i leoliadau trosedd, mae Ian wedi ysgrifennu nifer o lyfrau ac erthyglau cyfnodolion.
Yr Athro Sarah Leonard, Athro mewn Diogelwch Rhyngwladol
Mae gan yr Athro Leonard brofiad ymchwil sylweddol mewn terfysgaeth a gwrthderfysgaeth, yn ogystal â rheoli ffiniau a mudo. Mae wedi dysgu diogelwch rhyngwladol, mudo, diogelwch ar y ffin, lloches a mudo, yr Undeb Ewropeaidd a llawer o bynciau eraill ac mae wedi cyhoeddi'n eang yn y maes hwn.
Helen C Martin, Rheolwr Pwnc Academaidd ar gyfer Gwyddorau'r Heddlu a Diogelwch
Diddordebau ymchwil: mewnfudwyr a'u canfyddiadau a'u disgwyliadau; diogelwch a diogeledd myfyrwyr.
Daniel Welch, Darlithydd
Diddordebau ymchwil: boddhad dioddefwyr a cham-drin domestig yng Nghymru.
Gwasanaethodd Hannah Coombs fel heddwas gweithredol am dair blynedd ar ddeg, gan gyflawni sawl rôl gan gynnwys ymateb a phlismona cymdogaeth; hyfforddi ac addysgu recriwtiaid newydd a chyflwyno cwricwlwm cyn-ymuno’r Coleg Plismona
Dr Gareth Cuerden, Uwch Ddarlithydd
Diddordebau ymchwil: adrodd am droseddau casineb a chael gwared ar y rhwystrau i riportio troseddau casineb.
Jay Dave, Darlithydd ac ymgynghorydd, yw cyn Uwcharolygydd Heddlu De Cymru ac un o uwch swyddogion lleiafrifoedd ethnig Heddlu De Cymru. Mae ganddo brofiad helaeth o gynllunio gweithredol, gwrthderfysgaeth a chynllunio at argyfwng
Mike Edwards, Uwch Ddarlithydd
Diddordebau ymchwil: deddfwriaeth a pholisi gwrthderfysgaeth; cudd-wybodaeth ddigidol ac ymchwiliadau; gweithrediadau cudd-wybodaeth a diogelwch; rheoli risg a diogelwch
Allison Turner, Darlithydd mewn Plismona a Diogelwch
Diddordebau ymchwil: effaith y radd blismona newydd ar ddiwylliant yr heddlu
Clive Perry, Darlithydd Rhan Amser
Diddordebau ymchwil: diogelwch cymunedol a datblygiad staff.
Huw Smart, Darlithydd Rhan Amser
Dr Dean Whitcombe, a Hydra Minerva/ Gweithredwr Ystafell Efelychu
Charles Hawkins, Hyfforddwr Technegol Hydra Minerva / Ystafell Efelychu
Roger Phillips, Darlithydd mewn Plismona a Diogelwch
Diddordebau ymchwil: plismona ffyrdd a gweithgareddau'r heddlu